Cyngor Cymuned
Cadfarch
Community Council
Croeso i wefan Cyngor
Cymuned Cadfarch
Lleolir yr ardal hon yng Ngogledd Orllewin Powys, o fewn Etholaeth
Maldwyn. Dyma waelod Dyffryn Dyfi, yn ffinio efo Ceredigion a'r unig ran o
Bowys sy'n ymestyn at y môr. Mae'n ymestyn o Dderwenlas i Uwch y
Garreg, Aberhosan a thua Phenegoes at gyrion trehynafol Machynlleth.
Dyma gefn gwlad ar ei orau – yr ardal efo'r canran ucha o siaradwyr
Cymraeg ym Mhowys gyda bwrlwm o fywyd cymdeithasol a diwylliannol. Yn
wasgaredig ei phoblogaeth, amaethyddiaeth yw'r prif gyflogwr – mae'n ardal
gwerth ymweld a hi yn ymestyn o'r môr i'r mynydd.
Cyngor Cymuned Cadfarch © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs